top of page

  Y GRYMOEDD SY'N LLUNIO EIN CYMUNEDAU

​

Mae'r Tirweddau, yr Amgylchedd, y Diwydiannau, y Gweithwyr, y Gymuned, yn rhai o'r Grymoedd Sy'n Llunio Ein Cymunedau, nid yn unig yn y gorffennol, ond ar hyn  o bryd ac yn y dyfodol.

Roedd Cwm Tawe a'r ardal o gwmpas Parc Gwledig Craig-y-nos, yn seiliedig ar ffermio a diwydiant; gan gerfio’r dirwedd a welwn heddiw, trawsnewid y cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yno. Mae digwyddiadau diweddar, megis cynnydd mewn twristiaeth, Covid, newid hinsawdd, ffyrlo, gweithio  gartref, wedi trawsnewid amgylchedd gwaith heddiw, yn ogystal ag arwain at faterion iechyd meddwl, gwaith a chymunedol.

Mae’r Grymoedd Sy’n Llunio Ein Cymunedau yn brosiect 3 blynedd a ariennir gan Heritage yng Nghraig-y-nos a Chwm Tawe, sy’n edrych ar hen weithleoedd diwydiannol, a hanes bywyd cartref ac amodau gwaith y gweithwyr; y sgiliau oedd ganddynt, y deunyddiau a'r planhigion a ddefnyddiwyd ganddynt, yr effaith a gafodd eu gwaith ar y dirwedd. Nod y prosiect hwn yw cefnogi ac annog ail-agor/datblygu prosiectau a chanolfannau cymunedol, cyfoethogi'r profiad twristiaid trwy ddatblygu ymgysylltiad gwirioneddol â'r dirwedd, galluogi unigolion i feddwl yn greadigol ac ennill sgiliau a chymwysterau.

Mae perygl y bydd rhai o'r hen chwareli, odynau calchfaen a safleoedd treftadaeth eraill wedi tyfu'n wyllt a mynd yn anhysbys. Mae perygl y bydd atgofion yn pylu ac yn cael eu colli, a hen sgiliau'n cael eu hesgeuluso heb gael eu defnyddio dim mwy. Mae atgofion a chofnodion y rhai yr oedd eu hynafiaid yn gweithio yng Nghraig-y-nos adeg y gantores opera, Adelina Patti, a staff y tÅ· a ddefnyddiwyd wedyn fel ysbyty twbercwlosis mewn perygl o gael ei anghofio; felly hefyd yr hen ddefnyddiau o blanhigion ac edafedd. Y gweithwyr a gloddiodd am lo yn ardal Ystradgynlais, sbardun y Chwyldro Diwydiannol - pwy oedden nhw? Pa dafodieithoedd a gyflwynwyd ganddynt? Ble aethon nhw?

Nod Big Skill yw dod o hyd i ffordd i helpu pobl i reoli newidiadau mewn ffordd a fydd yn fuddiol i bawb, gan alluogi cyfranogwyr i ddod at ei gilydd, ar ôl covid, mewn sesiynau coffi a sgwrsio hygyrch yn rhad ac am ddim, mewn canolfannau cymunedol lleol a’r awyr agored, lle gwerthfawrogir gallu a chyfraniadau pawb.  Cymhelliant Big Skill yw Adeiladu Cymunedol, mae angen i bawb deimlo, neu ddysgu sylweddoli, bod ganddynt rywbeth i'w gynnig er mwyn ymgysylltu gwirioneddol. Mae ein Gweithdai yn seiliedig ar rannu sgiliau, cyfnewid syniadau a chefnogi ein gilydd: gan gynnwys athrawon, dysgwyr a'n sefydliadau neu leoliadau. Dyma sut mae cymuned lewyrchus yn gweithio. Mae popeth ar gael am ddim i'n cyfranogwyr ac felly maent yn agored i bawb. Rydym yn gweithio gyda'r rhai sy'n aml yn agored i niwed o fewn ein cymdeithas: pobl ag anableddau, pobl ag iechyd meddwl, pobl sy’n unig ac ynysig. Mae hyn yn hybu lles ac yn hyrwyddo rhyngweithio cadarnhaol, yn ogystal â dealltwriaeth amgylcheddol trwy sgiliau ailgylchu a chrefftau traddodiadol. Mae tîm o ymarferwyr medrus, profiadol, hyblyg gyda ni sy'n darparu gweithgareddau crefft a sgiliau gwledig hygyrch, ymarferol. Ymunwch â ni a dangoswch falchder yn eich treftadaeth wrth i chi:-

Cewch fynd am dro ar y ddaeareg a'r hanes, porthmona, planhigion anghofiedig, teithiau cerdded.

Ymchwiliwch i, a chipiwch hanes y gantores opera fyd-enwog Adelina Patti yn y castell a’i chreadigaeth sef y gerddi a’r parc gwledig. Ystyriwch wedyn sut y newidiodd bywydau, pan ddaeth y castell yn ysbyty twbercwlosis.

Cofnodwch eich atgofion neu atgofion eich hynafiaid gyda'n recordiadau fideo a gweithdai arlunio, peintio, ysgrifennu a ffotograffiaeth.

Cewch ennill cymhwyster gydag un o'n cyrsiau achrededig mewn gweithio â helyg, gwydr, peintio ac ailgylchu.

Dangoswch a rhannwch eich dawrn greadigol gyda'n gweithdai crefft a sgwrsio amrywiol.

Gweithiwch gyda choed yn y parc gyda gosod gwrychoedd, gwneud siarcol, sesiynau creu cynnyrch pren.

Dyma gyfle i gynllunio a chreu mewn clai, a gosod gweithiau celf diddorol ac addysgiadol, hydwyth, cyfoes yn y coetiroedd ym mharc gwledig Craig-y-nos. Cewch weld sut y gall eich creadigrwydd gael ei blethu â gwaith pobl eraill gan arwain at adfer ac adfywio mewn gwahanol gyd-destunau.

Heritagelogo.jpeg
New BB logo.png
bottom of page