Dweud Storïau Gyda Ffigurau Clai
Gweithdai clai am ddim lle gallwch: Greu Atgofion; Llunio Stori; Gwneud Crefft a Sgwrsio; Gwneud Ffigur; yn ogystal â bod yn rhan o dîm sy'n dylunio Nodweddion Tirwedd a fydd yn cael eu gosod ym mharc gwledig Craig-y-nos. Rydym yn cynnig gweithdai lle byddwch chi’n cwrdd fel arfer fel grŵp.
Ar hyn o bryd mae'r gweithdai hyn ar gyfer grwpiau penodol; ond rydym yn gwneud cais am grant Pawb a'i Le a fydd yn darparu gweithdai i'r gymuned gyfan. Os hoffech chi gymryd rhan neu os ydych chi'n meddwl ei fod yn syniad da anfonwch e-bost at trevor@thebigskill.com
NODWEDDION TIRWEDD A MANNAU CYFARFOD Bydd cyfranogwyr i ddod at ei gilydd y cais prosiect hwn, ar ôl covid, mewn sesiynau coffi a sgwrsio hygyrch, yn rhad ac am ddim, mewn canolfannau cymunedau lleol ac awyr agored. Yma bydd galluoedd a chyfraniadau pawb yn cael eu gwerthfawrogi. Mae'r gweithdai clai yn agored i bawb, o bob oed, cefndir, a gallu. Daw chyfranogwyr ynghyd, mewn gweithdai, yng Nghwm Tawe a’r ardaloedd cyfagos, gydag amrywiaeth o sgiliau, dyheadau a diwylliannau, i adrodd straeon mewn clai a chynllunio. Yn y pen draw byddant yn creu effaith amgylcheddol barhaol yn y lleoliadau yng nghoetiroedd parc gwledig Craig-y-nos. Bydd tri ffigwr mewn Taith Gerdded Hanesyddol ac yn hen erddi Adelina Patti gwelir ffigyrau amgylcheddol mewn dwy ran wrth Dair Menyw’r Mabinogion (Gwenllian, Rhiannon, Blodeuwedd) a'r rhai wrth ffynnon grisial a hanesyddol sef Ffynnol Atgyfodol yr Ysbyty). Bydd y rhain i gyd wedi cael eu cynllunio er mwyn gadael effaith amgylcheddol yng Nghraig-y-nos.
Ym mhen draw’r llwybr coetir hardd ym Mharc Gwledig Craig-y-nos, yn agos at un o fynedfeydd y parc, mae ffynnon naturiol sy’n glir fel grisial. Mae’r ffynnon hon wedi creu drysfa enfawr o ogofâu calchfaen o dan system ogofau Ogof Ffynnon Ddu ar ôl i’r ffynnon ddisgyn o’i tharddiad ar Graig y Rhiwarth y tu ôl i’r Rhiwarth. Cafodd y dyfroedd a ddeilliodd o'r Ffynnon Atgyfodol eu hadnabod fel Ffynnon Atgyfodol yr Ysbyty (Hospital Rising) (ar ôl i gastell Craig-y-nos gael ei ddefnyddio fel ysbyty Tiwberciwlosis yn y ganrif ddiwethaf). Cysyniad posibl ar gyfer hyn yw llunio dwy ffurf berthynol: Un yn dangos ffigwr gwarcheidwad yn gwneud bowlen i’r ffynnon wrth adael Annwfn. Gellir creu cerfiadau cerfwedd o fywyd gwyllt ar yr arwynebau. Y cysyniad posib arall byddai creu chwarelwr yn yfed diod, a phlentyn cysylltiedig. Gallai’r rhan hon hefyd gynnwys rhannau sy’n cysylltu â’i gilydd a byddai’r cerfiadau’n dangos golygfeydd a ddaw o’n cymunedau. Gallai fod hyd at 20 o adrannau cerfiedig i gyd, a fyddai’n darparu llawer o arwynebau i ni gael adrodd y straeon a gasglwyd mewn gweithdai amrywiol. O fewn y gwagle y tu fewn i’r ffigyrau bydd modd dylunio cartrefi sych a diogel ar gyfer bywyd gwyllt; gyda phlanhigion ac anifeiliaid wedi’u cerfio ar yr wyneb.
Er bod y prosiect yn ymwneud â gweithio â chlai, bydd hefyd yn cydweithio â grwpiau eraill gan gynnwys Ysgrifennu, Gwneud Printiau, Ffotograffiaeth, a Theithiau Cerdded (daearegol, porthmona, planhigion anghofiedig). Bydd y grwpiau’ndatblygu testun a delweddau llawn gwybodaeth ac ysbrydoledig i’w cerfio ar wynebau’r holl gerfluniau. Mae'r grŵp ysgrifennu yn bwriadu cyhoeddi bwletinau a llyfr hardd. Bydd y grwpiau peintio, gwneud printiau a ffotograffiaeth yn cynnal gweithdai i'w dddangos.
Dyma dair neges ddefnyddiol iawn am wneud modelau gan gynnwys dolenni ar gyfer cael deunyddiau ac offer :