Wythnos Crefftau’r Bannau a’r Ardal 18fed – 26ain Mehefin 2022
Llwybr Celf a Chrefftau i 60 o ganolfannau crefftau, orielau a chanolfannau cymunedol sy’n gwerthu, arddangos ac yn rhedeg gweithdai.
Mae cbc Sgiliau Mawr yn falch i gyhoeddi iddo dderbyn grant gwerth £9578 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n helpu gwella ansawdd bywyd cymunedau - trwy ddiogelu a chyfoethogi’r amgylchedd lleol, helpu pobl i fyw bywydau iachus a bodlon nawr ac yn y dyfodol. Am fwy o wybodaeth gweler: Cronfa Datblygu Cynaliadwy | Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (beacons-npa.gov.uk)
Yn sgil ein llwyddiant wrth dderbyn cyllid gan gronfa Datblygu Cynaliadwy PCBB, byddem yn hoffi derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Grefftwyr, Grwpiau Crefft, Orielau, Canolfannau Cymunedol yn y Bannau a’r Ardal sy’n awyddus i gymryd rhan mewn digwyddiad ‘wythnos o hyd’ i Ddathlu Crefftau fis Mehefin nesaf ac i gyfrannu trwy gyflawni un neu fwy o’r canlynol:
-
Agor eich cartref/stiwdio yn ystod y dyddiadau dan sylw ym Mehefin
-
Cymryd rhan trwy eich oriel/siop grefftau unigol ym mis Mehefin
-
Annog y siopau crefftau a’r orielau rydych yn gysylltiedig â nhw i gymryd rhan
-
Os nad oes gennych stiwdio cartref neu os nad ydych yn gysylltiedig â siop neu oriel, gallwn eich cysylltu â siop neu oriel, os hoffech arddangos yno yn hytrach!
Cofiwch, yn ystod blwyddyn gyntaf yr ŵyl flynyddol hon, does DIM COST i’w chynnwys mewn:
-
Map Crefftau’r Bannau a’r Ardal
-
Map a Llwybr Crefftau
-
Y Wefan
-
Fideos
-
Taflenni
Byddwn yn helpu rhoi cyhoeddusrwydd i’ch lleoliad a’r hyn y byddwch yn ei arddangos; byddwn yn cynorthwyo i gasglu eich gwybodaeth er mwyn ei chynnwys mewn taflenni, llyfrynnau, ar y wefan, yn y wasg, mewn fideos ac i dynnu sylw at opsiynau cludiant cyhoeddus lleol posib.
Cyn y digwyddiad, o ddechrau mis Mawrth, byddwn yn cynnal gweithdai a sesiynau crefftau wythnosol gyda 5 sesiwn yn y lleoliadau canlynol -Y Fenni, Craig-y-nos, Ystradgynlais, Aberhonddu, Aberdâr, Myddfai. Ymunwch â ni yn y sesiynau hyn i fwynhau crefftau, sgwrsio a rhannu. GELLIR COFRESTRU DIDDORDEB MEWN CYMRYD RHAN YN WYTHNOS GREFFTAU’R BANNAU A’R ARDAL.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddarparu lleoliadau gwaith, ac yn ogystal â’ch helpu chi i sefydlu a marchnata eich lleoliad, crefftau a nwyddau, bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr uwchsgilio ac ennill cymhwyster OCN Agored Cymru ‘Troi Gwastraff yn Grefftau’.
Cysylltwch ag: Emma Bevan. emma@thebigskill.com